OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ynghylch etholiadau llywodraeth leol. Mae Rhan 1 yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac mae Rhan 2 yn diwygio is-ddeddfwriaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
Gofynion sifftio wedi eu bodloni ***
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael([2]).
RHAN 1
Diwygiad i ddeddfwriaeth sylfaenol
Diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
2. Yn Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([3]) (aelodaeth o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol), hepgorer paragraff 1(4)(d).
RHAN 2
Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
3. Yn Rhan Ch o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007([4]), hepgorer paragraff 7.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008
4.—(1)(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda)
(Cymru) 2008([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniadau o “etholiad Senedd Ewrop” (“European Parliamentary election”) ac “etholiad cyffredinol Senedd Ewrop” (“European Parliamentary general election”)([6]).
(3) Yn Nhabl 5 (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001([7])) o Atodlen 4 (cymhwyso, gydag addasiadau, deddfau ac is-ddeddfwriaeth), yn y rhes sy’n darparu ar gyfer addasu Atodlen 3, Ffurf E([8])—
(a) yn lle “Yn lle “European Parliamentary electoral region” rhodder “Referendum voting area…”.” rhodder “Ar ôl “Local government electoral area(s)” mewnosoder “Referendum voting area…”.”;
(b) yn lle “hyd at “electoral region]]”” rhodder “hyd at “electoral area]]””.
Enw
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
([2]) Diffinnir “exit day” yn adran 20(1) i (5) (dehongli) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
([6]) Rhaid dehongli’r diffiniadau yn unol ag adran 27(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50). Diwygiwyd adran 27(1) gan adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p. 58) o ganlyniad i ailenwi Cynulliad Ewrop yn Senedd Ewrop.
([8]) Diwygiwyd Atodlen 3, Ffurf E o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 gan baragraff 1(7)(b) o Atodlen 8 i Orchymyn Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau i Is-ddeddfwriaeth) 2005 (O.S. 2005/2114) a Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Etholiadau Senedd Ewrop Etc. (Darpariaethau Diddymu, Dirymu, Diwygio ac Arbed) (Y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â’r UE) 2018 (O.S. 2018/1310).